Skip to content
Tyfu eich talent, recriwtio prentis

Mae prentisiaethau yn ffordd brofedig o chwistrellu talent newydd i’ch sefydliad.

Drwy recriwtio prentis gallwch:

– Creu cronfa o dalent a gweithlu medrus

– Ehangwch eich busnes

– Meithrin talent i wella’ch gwasanaethau

– Llenwch y bylchau sgiliau yn eich busnes

– Rhowch hwb creadigol i’ch busnes

– Adeiladu sylfeini busnes cryfach

– Ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol

 

Bydd y prentis yn gallu dysgu sgiliau gwerthfawr – yn y swydd, tra’n cwblhau cymhwyster ar yr un pryd.

Mae Grŵp Educ8 (sy’n cynnwys ISA Training ), yma i’ch helpu i hysbysebu a recriwtio eich prentis. Gallwn eich cefnogi i ddod o hyd i’r ymgeisydd cywir a sut y gallwch reoli eich prentisiaethau gwag ar-lein trwy Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru yn ogystal â hysbysebu ar ein gwefan ein hunain a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Drwy weithio mewn partneriaeth â ni, gallwch recriwtio prentis yn y sectorau canlynol:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gofal plant

Cyngor ac Arweiniad

Gwallt, Harddwch, Barbro, Ewinedd a Thylino

Gwasanaeth Cwsmer

Gweinyddu Busnes

Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)

 

Beth am dyfu eich talent eich hun drwy recriwtio prentis heddiw?

Os byddwch yn recriwtio prentis i’ch sefydliad erbyn 28.02.2021, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn hyd at £3000 o gyllid drwy’r Cynllun Cymhelliant Cyflogwr (*yn amodol ar gymhwysedd)

 

Mae ein tîm ymroddedig o Reolwyr Cyfrifon Cwsmer ar gael i ateb unrhyw un o’ch ymholiadau a gweithio gyda chi i ddatblygu rhaglen hyfforddi wedi’i theilwra i anghenion eich sector ac i’ch anghenion fel cyflogwr penodol, gan ganolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen arnoch yn eich busnes. .

Byddem wrth ein bodd yn helpu i’ch cefnogi ar eich taith o recriwtio eich prentis.

Am gyngor neu ragor o wybodaeth, siaradwch ag aelod o’n tîm ar 01443 749000 neu enquiries@educ8training.co.uk . Gallwch hefyd lawrlwytho ein llyfryn yma

9th Chwefror 2024

Hyrwyddo Gyrfaoedd yn y Sector Gofal Plant Trwy Brentisiaethau

8th Chwefror 2024

Taith Awyr Uchel: Dal i Fyny â Phrentisiaid Sky, Flwyddyn yn Ddiweddarach

5th Chwefror 2024

Llwybr at Lwyddiant: Datblygu Gyrfa gyda Phrentisiaethau

16th Ionawr 2024

Mae Grŵp Hyfforddiant Educ8 yn eiriol dros brentisiaethau yn wyneb toriadau posibl yn y gyllideb

Sgwrsiwch â ni

Skip to content