Neil Thompson yw Rheolwr Peirianneg Protectorcomms yng Nghaerffili. Mae’n dweud wrthym pam ei bod yn bwysig parhau i ddysgu, waeth beth fo’ch oedran.
Fy nghwrs achrededig cyntaf
Rwyf wedi gweithio yn Protectorcomms ychydig dros dair blynedd. Rwy’n rheoli 17 o bobl gan gynnwys peirianwyr, hyfforddeion a staff gweinyddol. Nid wyf erioed wedi astudio cwrs achrededig o’r blaen, felly cofrestrais i astudio’r brentisiaeth ILM. Dwi methu aros i raddio a gwisgo cap a gŵn.
Gadewais yr ysgol ac es i’r coleg
Gadewais yr ysgol gyda Lefelau O, cyfwerth â TGAU. Es ymlaen i astudio BTEC mewn Systemau Tân a Diogelwch yn y coleg ac yna gweithio yn y sector awyrofod. Des i i’r sector tân a diogelwch 36 mlynedd yn ôl. Rwy’n mwynhau’r diwydiant yn fawr ac wrth fy modd yn gweithio yn Protectorcomms. Mae’n gwmni sy’n rhoi ei staff a’i gwsmeriaid wrth galon y busnes.
Dim ots eich oedran, daliwch ati i ddysgu
Rwyf bob amser wedi bod yn agored i ddysgu sgiliau newydd. Er fy mod yn 52 oed, rwy’n credu, ni waeth pa mor hen ydych chi, y dylech chi bob amser fod eisiau gwella’ch hun trwy ddysgu gydol oes. Gan weithio fel rheolwr am bum mlynedd, rydw i eisoes yn gwneud y swydd. Ond bydd yr ILM yn fy helpu i ddeall cryfderau a gwendidau fy nhîm. Byddaf yn dysgu technegau newydd i reoli pobl yn well, megis deall gwahanol fathau o bersonoliaeth. Bydd cwblhau’r cwrs ac ennill fy nhystysgrif yn brawf fy mod yn gwybod sut i wneud y swydd.
Cyrsiau ar-lein a hyblyg
Mae llawer o gefnogaeth ar gael. Mae gennyf fynediad i lwyfan dysgu o’r enw Moodle – adnodd ar-lein gwych lle byddaf yn dysgu’r wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau fy unedau. Gellir ei gyrchu ar-lein unrhyw bryd sy’n golygu fy mod yn gallu cystadlu’r gwaith ar amser sy’n gyfleus i mi. Byddaf yn uwchlwytho’r holl waith trwy system o’r enw Smart Assessor. Mae fy swydd yn fy nghadw’n brysur iawn felly roedd yr opsiynau astudio hyblyg yn wych i mi.
Mae Sgiliau Hanfodol yn fonws
Fel rhan o’r brentisiaeth byddaf hefyd yn gwneud fy sgiliau hanfodol mewn Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol. Mae wedi bod mor hir ers i mi adael yr ysgol felly bydd astudio’r rhain yn golygu y gallaf wella fy sgiliau.
Dysgwch fwy am y cyrsiau sydd ar gael, ewch i : Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Educ8 (educ8training.co.uk)