Mae Grŵp Educ8 wedi cyrraedd rhestr fer derfynol Y Wobr Dysgu a Datblygu yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2021. Mewn blwyddyn sy’n torri record o ran ceisiadau, gyda bron i dri chant o sefydliadau yn cymryd rhan, mae hwn yn gyflawniad eithriadol ac yn un y mae pawb yn Educ8 yn falch ohono.
Mae Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl yn dathlu’r sefydliadau a’r unigolion gorau o bob cwr o’r byd ar draws amrywiol gategorïau sefydliadol, pobl, lles ac arweinyddiaeth. Bob blwyddyn mae cannoedd o sefydliadau o’r DU a thramor yn brwydro i fynd ag un o’r tlysau y mae galw mawr amdano adref i ddangos eu hymrwymiad arobryn i fuddsoddi yn eu pobl.
Dywedodd Kathryn Wing, Cyfarwyddwr Ansawdd a Chydymffurfiaeth yn Educ8 Group, “Mae’n fraint bod ar restr fer y wobr hon; arwydd clir o’r ymroddiad a’r gwaith caled y mae’r tîm wedi’i fuddsoddi yn y busnes. Fel cyflogwr, rydym yn falch o’n hachrediad BmP Platinwm; pan fyddwn yn buddsoddi yn ein gweithwyr, rydym hefyd yn buddsoddi yn nyfodol ein cwmni.”
Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl:
“Nawr yn ein 8fed blwyddyn, mae bob amser yn gwneud i mi deimlo’n hynod falch o weld cymaint o sefydliadau gwych yn honni mai nhw yw’r gorau. A phob blwyddyn, mae’r cynigion yn mynd yn fwyfwy cystadleuol a’r beirniadu hyd yn oed yn dynnach. Mae cyrraedd y rhestr fer derfynol yn dyst i’r ymrwymiad anhygoel y mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud i wneud gwaith yn well i’w pobl, ac maent yn wirioneddol haeddu’r gydnabyddiaeth hon.”
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar-lein ar 23 Tachwedd 2021.